Posted 09.02.18
Wythnos Ail-lunio Yfory
Ym mis Mehefin bydd Grỳp Wates yn cynnal y digwyddiad blynyddol Wythnos Ail-lunio Yfory, ar yr un pryd â’r Wythnos Genedlaethol Gwirfoddoli, a bydd cyflogedigion o bob rhan o’r busnes yn cymryd rhan. Llynedd, gwirfoddolodd 1,235 o bobl – tua thraean o’r gweithlu – a gwnaethpwyd 7,509 awr ar hyd a lled y wlad, gan weithio gyda nifer o achosion da lleol. Cefnogir Wythnos Ail-lunio Yfory gan Ymddiriedolaeth Menter Deuluol Wates trwy ei raglen grant elusennol, Wates Giving, sydd wedi cyflwyno dros £10m at weithgareddau elusennol ers ei gychwyn yn 2008.