Wates Residential yn dathlu wrth i’r cartrefi cyntaf gael eu prynu yng nghynllun blaenllaw Caerdydd
Mae’r datblygwr cenedlaethol Wates Residential yn dathlu galw uchel iawn ar gyfer y cartrefi cyntaf i’w rhyddhau fel rhan o gynllun blaenllaw adeiladu tai Caerdydd.
Diwedd mis diwethaf rhyddhawyd y deuddeg cartref cyntaf oddi ar y cynllun, wedi eu lleoli ar safleoedd Braunton Crescent (Golwg-y- Môr) a Clevedon Road (Heol y Capten) yn Llanrhymni, gyda diddordeb arbennig gan brynwyr tro cyntaf.
Mae hon yn garreg filltir bwysig ym mhartneriaeth Cartrefi Caerdydd, bydd yn arwain at 1,500 o gartrefi mewn nifer o safleoedd yn y ddinas yn dilyn apwyntiad Wates Residential fel partner datblygu Cyngor Caerdydd ym mis Ionawr 2016.
Hysbysebwyd y lleiniau, sydd yn cynnwys cartrefi dwy a thair ystafell wely, mewn digwyddiad a gynhaliwyd ddydd Gwener Mawrth 23ain yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni, er mwyn denu prynwyr lleol.
Daeth dros 50 o bobl yno, a threfnwyd apwyntiadau ar gyfer y diwrnod canlynol gyda’r asiant Allen & Harris. Cafwyd archebion llwyddiannus gan 8 (67%) o brynwyr tro cyntaf, tra bydd saith o gartrefi (58%) yn cael eu prynu drwy gynllun Cymorth i Brynu y Llywodraeth.
Rhain yw’r cartrefi cyntaf i’w rhyddhau fel rhan o’r cynllun ‘Cartrefi Caerdydd’, partneriaeth deng mlynedd rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential.
Dyluniwyd y cynllun er mwyn ateb y galw cynyddol am dai yn y ddinas a bydd yn darparu oddeutu 600 o dai cyngor i’w rhentu neu ar gyfer perchentyaeth â chymorth, a 900 o dai i’w gwerthu ar y farchnad agored.
Ar ôl eu cwblhau flwyddyn nesaf, bydd safleoedd Golwg-y- Môr a Heol y Capten yn cynnwys 106 o gartrefi o ddaliadaeth gymysg, sef 40 tŷ cyngor a 66 i’w gwerthu. Cafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer naw o safleoedd eraill. Yn rhan gyntaf y cynllun mae’r gwaith adeiladu eisoes ar waith ar bedwar o’r safleoedd hyn.
Bydd yr holl gartrefi dan enw ‘Cartrefi Caerdydd’ yn cwrdd â gofynion uchel o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Yn ogystal, fel rhan o’r bartneriaeth, mae Wates Residential a Chyngor Caerdydd wedi gwneud addewid i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer trigolion lleol, gan gynnwys prentisiaethau ar y safleoedd, profiad gwaith ar leoliad a chynlluniau yfforddiant strwythuredig. Hyd yn hyn cynhyrchiwyd £237,000 mewn gwerth economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, gyda 824 wythnos o waith a hyfforddiant wedi eu creu ar gyfer pobl ar hyd a lled Caerdydd.
Rhyddheir y cartrefi nesaf ar y safle ar ddiwedd mis Ebrill.
Dywedodd Paul Nicholls, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential Y De:
“Mae rhyddhau’r cartrefi cyntaf hyn dan frand ‘Cartrefi Caerdydd’ yn garreg filltir arwyddocaol ac rydym wrth ein bodd bod y cartrefi wedi cael derbyniad mor dda gan drigolion lleol, yn enwedig prynwyr tro cyntaf”
“Mae’n amlwg bod cynnydd yn y galw lleol o fewn Caerdydd am dai fforddiadwy ac o safon uchel a bydd ein cynlluniau ni a’r cyngor o help sylweddol wrth ateb y galw dwys hwn. Mae ein partneriaeth hirdymor â’r cyngor yn golygu ein bod yn gallu darparu buddion arwyddocaol ar gyfer y gymuned drwy ein buddsoddiad mewn sgiliau, cyflogaeth a hyfforddiant, yn ogystal â darparu tai ychwanegol hanfodol.”
Dywedodd Cynghorwraig Lynda Thorne, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau:
“Rwyf wrth fy modd bod y cartrefi hyn, rhan o’n partneriaeth Cartrefi Caerdydd gyda Wates Residential, yn profi mor llwyddiannus gyda phrynwyr.
“Mae hon yn garreg filltir gyffrous yn y rhaglen Cartrefi Caerdydd ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnydd bellach yn y datblygiadau sydd ar y gweill yn ogystal â’r gwaith sydd i ddod ar safleoedd ar draws y ddinas. Rydym wedi ymrwymo i ateb y galw ar gyfer bob math o gartrefi yn y ddinas a darparu cartrefi fforddiadwy o safon uchel bydd yn help i adfywio cymunedau a gwella ansawdd bywyd ein trigolion.”