




Y cynnig yw creu Pentref Llesiant newydd, gyda thua 250 o gartrefi newydd wedi’u hadeiladu o fewn amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd a lles.
Mae ffocws ar greu cartrefi newydd i bobl hŷn, wedi’u hadeiladu o fewn cymuned oedran cymysg, gyda chymysgedd o gartrefi ar werth a chartrefi i’w rhentu gan y Cyngor.
Y nod yw i’r Pentref Llesiant gael ystod eang o gyfleusterau cyhoeddus newydd. Gallai gynnwys Hyb Cyngor, cyfleusterau iechyd, caffi a gofod cymunedol hyblyg.
Bydd mannau awyr agored o ansawdd uchel. Gallai hyn gynnwys:
Bydd mynediad i gerbydau i’r tai a’r cyfleusterau cymunedol ar safle Coleg Llanfihangel o’r fynedfa bresennol oddi ar Heol Llanfihangel. Mae potensial i greu cysylltiadau cerdded/beicio newydd i helpu i wella mynediad o’r ardal gyfagos i’r cyfleusterau cymunedol.
Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys hen Dafarn Llanfihangel.
Anfonwch unrhyw sylwadau neu gwestiynau at: DatblyguTai@caerdydd.gov.uk.
Mae ein llinell wybodaeth ar agor 10.00am - 5.00pm, saith diwrnod yr wythnos.