Mae’r Fioled yn breswylfa pedair ystafell wely sydd wedi’i chynllunio’n dda, gyda llety wedi’i drefnu dros dri llawr. Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys cegin/ardal fwyta cynllun agored gydag unedau modern, chwaethus ac offer integredig, ac mae yna ystafell fyw ar wahân hefyd gyda mynediad i’r patio a’r ardd gefn drwy ddrysau Ffrengig dwbl deniadol. Mae ystafell gotiau ym mlaen y cartref hwn.
Ar y llawr cyntaf mae tair ystafell wely, gydag ystafell gawod ensuite yn ystafell wely rhif dau, ac ystafell ymolchi deuluol. Mae’r brif ystafell wely ac ystafell gawod ensuite ar yr ail lawr, sy’n ffurfio swît ar wahân o ystafelloedd neu randy i westeion. Mae gan y Fioled garej ar wahân a man parcio oddi ar y stryd.