Mae gan y cartref cymesur teuluol sengl hwn bedair ystafell wely, cegin/ardal fwyta cynllun agored a mynediad i batio a gardd gefn drwy ddrysau Ffrengig cyfoes. Mae’r gegin yn cynnwys unedau deniadol ac integredig ac mae ystafell amlbwrpas ddefnyddiol wedi’i lleoli ar wahân. Mae’r ystafell fyw ar wahân ac o faint hael ac wedi’i lleoli ym mlaen y tŷ ac mae yna ystafell gotiau ddefnyddiol i gwblhau’r llawr gwaelod.
Mae gan y brif ystafell wely ystafell ymolchi ensuite ac mae ystafell ymolchi deuluol yn gwasanaethu’r tair ystafell wely arall. Mae gan yr Eithin garej ar wahân a man parcio oddi ar y stryd.
Mae ein llinell wybodaeth ar agor 10.00am - 5.00pm, saith diwrnod yr wythnos.