Mae’r Fiaren yn dŷ sengl â thair ystafell wely. Mae’n cynnwys cegin/ardal fwyta cynllun agored sydd wedi’i chynllunio ar gyfer byw’n hyblyg gydag unedau deniadol, offer integredig a drysau Ffrengig dwbl sy’n arwain y tu allan i’r patio a’r ardd gefn, sy’n berffaith ar gyfer diwrnodau braf o haf. Mae ystafell fyw ar wahân ac ystafell gotiau hefyd ar y llawr gwaelod. I fyny’r grisiau mae tair ystafell wely o faint da gyda’r brif ystafell wely yn cynnwys ystafell gawod ensuite. Mae yna ystafell ymolchi deuluol hefyd. Mae’r Fiaren yn cynnig dau le parcio oddi ar y stryd.
Mae ein llinell wybodaeth ar agor 10.00am - 5.00pm, saith diwrnod yr wythnos.