Bydd Rhos yr Arian yn lleoliad delfrydol i brynwyr tro cyntaf, teuluoedd sy’n tyfu a ophobl sy’n chwilio am dai llai fel ei gilydd. Caiff yr ardal leol fudd o amrywiaeth eang o amwynderau gan gynnwys siopau, tafarndai, parc busnes, caeau chwarae, clwb golffio a chlwb bowlio a nifer o ysgolion cynradd lleol.
Er y bydd gan Rhos yr Arian holl amwynderau amrywiol y brifddinas yn agos, mae siopau lleol hefyd yn gwasanaethu trigolion yn dda, gan gynnwys siop fwyd fawr a manwerthwyr annibynnol sy’n cynnig amrywiaeth o nwyddau cyfleus. P’un a ydych yn gweithio yn y gymdogaeth neu’n cymudo bob dydd, fe welwch yr hyn sydd ei angen arnoch, wrth stepen eich drws.
Mae Tafarn y Bluebell, llai nag un filltir i ffwrdd, yn un o dafarndai hynaf yr ardal, a dywedir iddi gael ei henwi ar ôl digwyddiad a gynhelir gan fynachod Llanrhymni. Roedd ffair flynyddol y pentref yn cynnwys ras o’r fynachlog i Eglwys Llaneirwg, gyda’r enillydd yn derbyn cloch gyda chlepiwr glas. Mae mannau bwyta ac yfed eraill yn cynnwys The Willows, The Heron Marsh, The Fox and Hounds, The Coach House a White Hart Steakhouse.