Mae Plas y ddol yn ddatblygiad newydd cyffrous gan y Cyngor, sy’n darparu 42 o gartrefi Cyngor y mae mawr eu hangen ar gyfer rhentu cymdeithasol neu eu gwerthu drwy gynllun Perchentyaeth â Chymorth y Cyngor.
Bydd y datblygiad yn cynnwys 30 o fflatiau gan gynnwys 25 o fflatiau dwy ystafell wely, 5 fflat un ystafell wely a 12 tŷ ystablau dwy ystafell wely. Bydd pob cartref yn olau a chyda digon o le ac ardaloedd byw/bwyta a chegin cynllun agored. Bydd gan rai cartrefi rywfaint o le awyr agored preifat gyda naill ai balconi, teras neu ardd. Bydd gan y fflatiau iard gymunedol a rennir hefyd.
Ni fydd Plas y ddol yn cael ei ryddhau tan dymor yr hydref 2022 felly i gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Perchentyaeth â Chymorth y Cyngor, cofrestrwch isod.
Cofrestrwch eich diddordeb
Mae ein llinell wybodaeth ar agor 10.00am - 5.00pm, saith diwrnod yr wythnos.