Yn Llwyn Aethnen rydym yn darparu atebion ynni clyfar i’ch galluogi i fanteisio i’r eithaf ar ynni carbon isel trwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy integredig yn ddi-dor a systemau storio wedi’u gosod yn eich cartref, gan eich galluogi i ddefnyddio ynni pan fydd yn gost isel ac yn garbon isel.
Mae ynni solar yn cael ei gasglu o'r haul
Mae paneli ffotofoltäig solar yn defnyddio celloedd sy'n cynnwys deunydd lled-ddargludyddion i ddal ynni’r haul a throi ymbelydredd solar yn drydan.
Mae'r ynni’n cael ei storio mewn batri
Mae'r trydan yn cael ei storio mewn batri sydd wedi'i osod yn eich cartref. Pan fydd angen trydan ychwanegol ar y batri, gellir ei dynnu o'r grid yn ystod cyfnodau cost isel/carbon isel a gellir gwerthu trydan dros ben yn ôl i'r grid yn ystod cyfnodau cost uchel/carbon uchel.
Mae'r egni yn cael ei ddefnyddio i roi pŵer i'ch cartref
Defnyddir y trydan i bweru eich cartref yn ôl yr arfer (h.y. cadw'r goleuadau ymlaen) ond gellir ei ddefnyddio hefyd i wefru car trydan trwy'r pwyntiau gwefru ar eich wal allanol. Mae'r ynni'n cael ei reoli gan system rheoli ynni cartref clyfar o'r enw 'The BEE', sy'n monitro anghenion ynni eich cartref er mwyn optimeiddio dosbarthiad ynni o fewn eich cartref.
Cynhyrchir gwres trwy bwmp gwres o’r ddaear
Cynhyrchir gwres (ar gyfer dŵr poeth a gwres canolog) trwy bwmp gwres o'r ddaear (sy'n rhedeg ar drydan), sy'n gysylltiedig â system o dyllau turio tanddaearol dwfn.
Mae'r gwres sy'n cael ei storio yn cael ei ddosbarthu o amgylch y cartref
Mae gennych silindr dŵr poeth mawr sy'n gysylltiedig â'r pwmp gwres i storio dŵr poeth ar gyfer cawodydd neu olchi’r llestri.
Lleihau colled gwres
Yn ogystal â'r technolegau ynni a chynaeafu gwres newydd arloesol, rydym yn sicrhau ymhellach bod ôl troed carbon eich cartref yn cael ei leihau drwy insiwleiddio ar bob pwynt posibl lle gallai gwres gael ei golli.