Mae Llwyn Aethnen wedi’i lleoli yn Nhredelerch, ychydig oddi ar Heol Casnewydd gyda mynediad rhwydd i ganol dinas Caerdydd a’r M4. Mae Llwyn Aethnen yn cynnig 149 o gartrefi. Mae cartrefi dwy, tair, pedair a phum ystafell wely ar gael mewn gwahanol dai ar wahân a thai pâr, yn ogystal â thai tref 3 llawr. Bydd Cymorth i Brynu ar gael ar rai cartrefi, mae Llwyn Aethnen yn fenter newydd gadarnhaol i’r ardal. Nid datblygiad newydd arferol mohono, mae Llwyn Aethnen yn rhan o’n hymrwymiad i ddatblygu cymunedau newydd a chartrefi newydd sydd wedi eu creu ar gyfer byw modern. Maent wedi eu dylunio ar gyfer y ffordd o fyw yr hoffech chi ei chael heb unrhyw gyfaddawdu, gan fod pawb yn haeddu lle gwych i fyw ynddo.
Mae’r cartrefi wedi’u dylunio i fanyleb uchel gydag ansawdd adeiladu heb ei ail, ac yn ddiogel ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd ynni mwyaf posibl. Ond yn bwysicaf fyth, mae ein cartrefi wedi’u bwriadu i greu cymunedau ac mae’r cyfleusterau a rennir yn helpu i adeiladu cymdogaethau y mae pobl yn falch o berthyn iddynt.