Cysylltiadau teithio

Reidiwch eich beic Neidiwch ar eich beic er mwyn gwneud y gorau o’r amgylchedd lleol. Nid yn unig dyma’r opsiwn gwyrddach ond mae rhwydwaith beicio Caerdydd yn tyfu ac mae ganddo lawer o lwybrau oddi ar y ffordd a rennir i gerddwyr a beiciau.
Ewch ar y bws Mae Llys Ffion o fewn pellter cerdded hawdd o lwybrau bws sy’n stopio ar Colchester Avenue a Heol Casnewydd, y ddau’n cynnig gwasanaethau aml (bob 5/10 munud, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn) i ganol Caerdydd a Gorsaf Caerdydd.
Ewch ar y trên Y brif orsaf drenau agosaf yw Caerdydd Canolog gyda gwasanaethau trên i Fanceinion, Bryste, Birmingham, Caerloyw a Paddington Llundain. Cathays yw’r orsaf drenau leol agosaf.
Ewch â’r car Mae canol dinas Caerdydd yn darparu ystod dda o gyfleusterau parcio yn ogystal â’r gwasanaeth Parcio a Theithio, sy’n golygu bod mynd â’r car allan yn ddidrafferth. Mae Llys Ffion yn agos at yr A48 sy’n cysylltu â’r M4 ac yn darparu mynediad cyflym at gyrchfannau eraill yng Nghymru ac ar draws i Fryste ac ymlaen i Lundain.
Ewch am dro P’un a yw’n ymweliad â Gwarchodfa Natur Leol Howardian neu daith gerdded 20 munud i Wellfield Road yn Y Rhath gyda’i detholiad o fwytai a siopau, mae Llys Ffion o fewn pellter cerdded hawdd ar gyfer eich holl anghenion o ddydd i ddydd.
Cyrraedd y maes awyr Mae’n hawdd cyrraedd Maes Awyr Caerdydd mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus o Lys Ffion. Mae’r maes awyr prysur hwn yn cynnig teithiau hedfan uniongyrchol i lawer o gyrchfannau Ewropeaidd poblogaidd.

Ysgolion Lleol

Mae dewis da o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol. Mae gan bob ysgol yn yr ardal o leiaf Adroddiad da gan Estyn.
YSGOLION CYNRADD
Dalgylch Saesneg: Ysgol Gynradd Marlborough ac Ysgol Gynradd Howardian. Mae’r ddwy ar gyfer plant 3-11 oed ac maent wedi cael Adroddiadau da gan Estyn.
Dalgylch Cymraeg: Mae Ysgol y Berllan Deg, sydd ar gyfer plant 3-11 oed, wedi cael Adroddiad da gan Estyn hefyd.
YSGOLION UWCHRADD
Ysgol Uwchradd Saesneg: Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd i blant 11-18 oed wedi cael Adroddiad rhagorol gan Estyn. Mae ganddi enw da fel un o’r ysgolion uwchradd gorau yng Nghymru o ran canlyniadau TGAU.
Ysgol Uwchradd Gymraeg: Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ysgol Gymraeg ddynodedig i blant rhwng 11 a 18 oed. Mae wedi cael Adroddiad da gan Estyn.