Disgwylir i'r safle gael ei gwblhau yn hydref 2021.

Mae gwaith wedi dechrau ar y datblygiad yn Crofts Street ym Mhlasnewydd. Mae’r cynllun yn bartneriaeth cyffrous rhwng Aecom, Wates Residential a Chyngor Caerdydd i ddarparu 9 o dai 2 ystafell gwely ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Mae hon yn system fodiwlaidd sy’n effeithlon iawn o ran ynni ac a gaiff ei dylunio a’i chreu oddi ar y safle dan amodau rheoledig gan ddefnyddio’r deunyddiau adeiladau a’r dechnoleg ddiweddaraf.

Mae manteision gwneud y gwaith adeiladu hwn oddi ar y safle yn cynnwys creu adeilad thermol hynod o effeithlon, ond hefyd mae’n golygu llai o darfu ar drigolion lleol gan fod y rhaglen adeiladu gyffredinol a’r gweithgarwch ar y safle lawer yn llai.

Bydd yr eiddo ar gael i denantiaid drwy restr aros bresennol tai’r Cyngor. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma.

Gwneud cais am dai (caerdydd.gov.uk)