Cardiff Living is devoted to delivering home living
environments for every person, at every stage of their life.
This includes living solutions for our older generation.

Mae Tŷ Addison yn un o gynlluniau newydd Byw yn y Gymuned, Cyngor Caerdydd.

Mae’r llety yn cynnwys 44 o fflatiau 1 neu 2 ystafell wely ar 5 llawr gyda mynediad lifft. Mae’r fflatiau wedi’u cynllunio i fod yn ddigon hyblyg i addasu o amgylch anghenion newidiol pobl. Byddant yn cynnig ‘cartref am oes’ sy’n galluogi preswylydd i fyw’n annibynnol.

Mae agwedd ddeuol i’r fflatiau, maent yn helaeth â chynllun agored ac mae ganddynt falconïau preifat mawr i greu man golau ac awyrog.

Dyluniwyd y cynllun i safonau Platinwm RNIB ac mae’n cydymffurfio â safonau HAPPI

Mae’r eiddo unigol yn hunangynhwysol ond mae gan y cynllun gyfleusterau cymunedol megis lolfa, teras/lolfa ar y to gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren, ystafell olchi dillad, gardd cwrt, mannau parcio gan gynnwys mannau gwefru ceir trydanol a chyfleusterau ar gyfer storio a gwefru sgwteri symudedd. Bydd cynlluniau byw yn y gymuned hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i’r boblogaeth ehangach o bobl hŷn er mwyn helpu i fynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol a hyrwyddo llesiant.

Mae’r cynllun yn mynd â safonau perfformiad ynni i lefel newydd gan y bydd pob un o’r cartrefi yn cynnwys technolegau adnewyddadwy a systemau rheoli ynni clyfar i leihau’n sylweddol ar y galw am ynni gan y grid, yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd drwy leihau biliau ynni yn sylweddol. Mae larymau cymunedol wedi’u gosod ar bob cynllun Byw yn y Gymuned yng Nghaerdydd sy’n darparu gwasanaeth ymateb brys 24 awr y dydd.  Mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau reolwr hefyd a all helpu gyda phroblemau o ddydd i ddydd yn ystod oriau swyddfa. Mae’r rheolwr hefyd yn gyfrifol am drefnu gwasanaethau a gweithgareddau ar y safle.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: CardTai Caerdydd

Latest News